Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
|
|
|
||
Dyddiad: |
||
|
||
Amser: |
||
|
||
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a: |
||
Aled Elwyn Jones
(Clerk) 029 2089
8009 |
||
|
Agenda Preifat |
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
|
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
3 Trefn busnes |
3.1 Busnes yr wythnos hon BC(4)29-14(p1) Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf BC(4)29-14(p2) Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
|
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf BC(4)29-14(p3) Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2014 -
· Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Nick Ramsay (Sir Fynwy) (30 munud)
· Dadl Fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud) |
4 Deddfwriaeth |
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Defnyddwyr BC(4)29-14(p4) Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Hawliau Defnyddwyr.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 20 Tachwedd 2014, er mwyn gallu trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2014. |
5 Pwyllgorau |
5.1 Cynnig i Sefydlu Pwyllgor Cynulliad BC(4)29-14(p5) |
5.2 Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad: Penderfyniadau'r Pwyllgor Busnes BC(4)29-14(p6) Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad i drafod Cael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol mewn achosion o Gosbi Plant yn Gorfforol, ynghyd â phapur gan yr Ysgrifenyddiaeth yn nodi materion cysylltiedig i'r Rheolwyr Busnes eu hystyried.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y cynnig, gan gynnwys yr aelodaeth a materion eraill sy'n ymwneud â'r Pwyllgor, gyda'u grwpiau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Busnes ar 11 Tachwedd 2014. |
6 Y Rheolau Sefydlog |
6.1 Cydsyniad o ran Newidiadau i Swyddogaethau'r Cynulliad BC(4)29-14(p7) Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y cynigion gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â swyddogaethau'r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth lunio cynigion ar gyfer diwygio Rheol Sefydlog 30 ac y byddai'n dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
Unrhyw Fater Arall Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Llywodraeth yn gosod Gorchymyn Adran 109 yr wythnos hon, cyn dod â phapur ffurfiol gerbron y Pwyllgor yr wythnos nesaf.
Dywedodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wrth y Pwyllgor y byddai'r Llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth yr wythnos hon, ac y byddai papur yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. |